Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (211)v5 |
Cwestiwn Brys
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ymadawiad y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd o’r Cabinet?
|
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
|
3 Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Cyflwyno Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (60 munud) |
4 Datganiad gan y Prif Weinidog: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Comisiwn Williams (45 munud) Dogfen Ategol Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus |
5 Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Y Papur Gwyn Llywodraeth Leol (45 munud) |
6 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Y Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 (i’w ddarparu gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth) (45 munud) |
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd (15 munud)
NDM5549 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau Yn y Bil Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd sy’n cyflwyno gofyniad i gael caniatâd yr Uchel Lys cyn y ceir herio dilysrwydd amrywiol orchmynion, camau, cynlluniau a dogfennau strategol eraill sy’n ymwneud â chynllunio, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Diwygiedig yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Mae copi o'r Bil Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd i'w weld yma: http://services.parliament.uk/bills/2013-14/criminaljusticeandcourts.html [ Saesneg yn unig]
Dogfennau Ategol Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Diwygiedig
|
8 Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Bwyd o Brydain) 2014 (15 munud) NNDM5550 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, a Rheol Sefydlog 30A.10, i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Bwyd o Brydain) 2014, yn unol â'r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mai 2014.
Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mai 2014.
Dogfennau Ategol Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Bwyd o Brydain) 2014 (Saesneg yn unig) Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol |
9 Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Tai (Cymru) (15 munud) Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Tai (Cymru)
Dogfennau Ategol |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 9 Gorffennaf 2014